top of page
Search

Clod Wythnos Hyfforddwyr y DU am ein hyfforddwyr

Medi 14eg - 20fed oedd Wythnos Hyfforddwyr y DU 2020, pan ddangosodd y gymuned chwaraeon ei gwerthfawrogiad o'r hyfforddwyr sy'n symbylu, arloesi ac annog ni i gyd i garu chwaraeon a bod y gorau y gallwn fod. Yn ystod yr wythnos, gwnaeth Nofio Cymru gydnabyddiaethau am yr hyfforddwyr yn y gymuned chwaraeon dyfrol, a oedd yn cynnwys clod haeddiannol i'n hyfforddwyr ein hunain; Darryl Ward a Lloyd Rickards a’u hymdrechion godidog ac ymroddedig yn eu rolau hyfforddi ar gyfer Clwb Polo Dŵr Cwm Draig.



Talodd Nofio Cymru deyrnged i Darryl a Lloyd, sydd ill dau yn ymgymryd â rôl hyfforddi ar lefel genedlaethol Cymru o'r Carfan Datblygu Bechgyn Ieuenctid a Carfan Datblygu Menywod yn y drefn honno, gyda darn a gyflwynwyd gan chwaraewr yr Dynion, Matthew Griffiths. Darllenodd y darn: "Yn gyntaf, ni allaf roi digon o werthfawrogiad a diolch i'm hyfforddwr o bron 10 mlynedd, Darryl Ward. Ers y sesiwn gyntaf i mi gymryd rhan ynddi, mae Darryl wedi rhoi awydd, symbyliad a chefnogaeth cryn imi gystadlu yn y gamp. I mi a llawer eraill, mae Darryl wedi cyflwyno'r gamp fel un gynhwysol, deniadol, cynhyrfiol ac i chwarae rhan sylweddol o'n ffordd o fyw. Mae Darryl wedi bod yn gefnogaeth gyson i mi fy hun a’r tîm cyfan gyda’i ymroddiad ffenomenaidd a’i ddarpariaeth ddiflino o gyfleoedd i ymarfer gyda’n gilydd ac i'n cael ni at safon lle rydym i gyd wedi symud ymlaen i lefel gystadleuol uchel. Mae'r anhunanoldeb a'r gred y mae wedi'u dangos i'r clwb a'r athletwyr wedi ein galluogi ni i gyd i ddatblygu a ffynnu'n gyfannol."



"Yr ail hyfforddwr sy'n haeddu cydnabyddiaeth yw Lloyd Rickards. Roeddwn eisoes yn chwaraewr Dynion sefydledig pan ymunodd Lloyd â'r tîm hyfforddi, ond nid oes amheuaeth ar y ffaith ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar y clwb. Mae Lloyd wedi dangos ymrwymiad a pharodrwydd rhagorol i ymgymryd â gwahanol rolau i Cwm Draig, ac un ohonynt yw i weithio ochr yn ochr â Darryl i hyfforddi'r Dynion yn ystod hyfforddiant a gemau. Rwyf wedi ffynnu ynghyd â gweddill y garfan o dan arweiniad Lloyd, gan cyflawni llwyddiant yn Cwpan Ddileu'r Llywydd y Cynghrair Polo Dŵr Bryste ac Gorllewin a Phencampwriaethau Môr Polo Dŵr Lyme Regis. Cyflwynodd Lloyd ei ddealltwriaeth a'i fedrusrwydd odidog o'r camp, ei arweinyddiaeth a'i ddiwydrwydd rhagorol i ganiatáu fi a'r garfan gyfan i berfformio at ein potensial."



"Dau hyfforddwr hynod; mae'r ddau wedi cael dylanwad enfawr ar roi'r anogaeth, yr angerdd a'r cymhelliad imi fwynhau a chwarae'r gamp ar fy lefel orau."



Dau hyfforddwr godidog.

Rydyn ni'n teimlo'n freintiedig am bopeth mae Darryl a Lloyd yn wneud i'n clwb.

Comments


bottom of page