top of page
Search

Rhaglen y tymor cynghrair 2023 wedi'u rhyddhau

Mae’r gemau ar gyfer ein tymor Cynghrair Polo Dŵr Bryste a'r Gorllewin 2023 wedi’u rhyddhau. Bydd ein Carfan Menywod yn cystadlu yn Adran Menywod ac yn cychwyn eu tymor gyda thaith byr i'r brifddinas i herio Crwydriaid Cymreig ar Fawrth 14. Bydd y Sobell y lleoliad am gemau cartref ein Menywod unwaith eto, gyda'r un gyntaf yn dod yn erbyn Dinas Bryste ar Ebrill 20.

Ar gyfer tymor 2023, bydd ein Dynion yn cydweithio â Dinas Casnewydd i gystadlu fel y Dreigiau Celtaidd. Bydd y tîm cyfun yn ymddangos am y tro cyntaf gyda thaith i Bradford-on-Avon ar Fawrth 20. Bydd Pwll Nofio Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn cynnal gemau cartref y Dreigiau Celtaidd. Harlecwiniaid Dinas Bryste fydd y gwrthwynebwyr ar gyfer ein gêm gartref gyntaf ar Ebrill 16.

Gall y gemau newid. Bydd gwefan Cwm Draig yn cadw rhestr gemau gyfredol, gydag unrhyw newidiadau i'r gemau yn cael eu cyfleu ar draws yr lwyfannau ar-lein (Facebook, Twitter, gwefan).


DERE YMLAEN DREIGIAU!

Comments


bottom of page