top of page
Search

RHOWCH GYNNIG AR POLO DÅ´R!

Chwilio am her ddyfrol newydd yn y Cymoedd? Awydd math gwahanol o chwaraeon tîm? Barod am ymarfer corff caled? Eisiau mynd yn ôl i nofio gyda wahaniaeth? Beth bynnag fo'ch rheswm, rhowch gynnig i bolo dŵr yn 2023!

Mae cymryd rhan mewn polo dŵr yn cynnwys amrywiaeth gyfannol ac eang o fanteision.


Ydych chi awydd her newydd? Beth am gyfuniad o sgorio goliau a nofio?! Gallwch wneud polo dŵr am hwyl, ffitrwydd neu'n gystadleuol.


Gall polo dŵr fod yn gamp tîm gwych i wella sgiliau cymdeithasol a gwaith tîm, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar les meddyliol. Mae yna hefyd gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli yn y gamp.


A yw eich nofiwr ifanc wedi cwblhau Rhaglen Dysgu Nofio Tonnau yn ddiweddar? Neu efallai eich bod am ddychwelyd i nofio? Gall polo dŵr fod yn gam nesaf ar gyfer parhau â'ch siwrnai dyfrol trwy gadw a datblygu eich sgiliau a nofio ymhellach.


Awydd ffordd wahanol o wneud ymarfer corff? Bydd polo dŵr yn sicr yn gwarantu ymarfer cardio effeithiol, gan losgi llawer o galorïau. Os oes gennych chi'r nod o wella'ch ffitrwydd cyffredinol, gall polo dŵr ddarparu'r ateb, trwy wella pŵer ac ystwythder, cryfhau cyhyrau rhan uchaf ac isaf y corff a datblygu stamina.


Os ydych chi am wella iechyd corfforol, gall polo dŵr yn sicr bod dull effeithiol o helpu i golli braster, yn ogystal â lleihau pwysedd gwaed a lleihau'r risg o glefyd y galon.


Mae gennym sesiynau hyfforddiant cymysg ar ddydd Iau am 7:30 y.p yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr (CF44 7RP). Mae croeso i bob oedran a lefel gallu, felly dewch draw i weld a yw polo dŵr yw'r gamp am chi!

bottom of page